Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Gwaith Ieuenctid – gwaith dilynol | Youth Work - Follow up

YW(2) 03

Ymateb gan: Urdd Gobaith Cymru

Response from: Urdd Gobaith Cymru

 


Argymhelliad y Pwyllgor 1:

Dylai'r Gweinidog adolygu'r Strategaeth Genedlaethol ac adnewyddu'r canllawiau statudol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phobl ifanc. Rhaid i gynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu, gan gynnwys amserlenni, gael ei ddatblygu ochr yn ochr â strategaeth newydd

Derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Comisiynu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Susanne Rauprich OBE, i adolygu effaith y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Derbyniwyd adroddiad terfynol ac mae’n cael ei baratoi i’w gyhoeddi. Llywiwyd y gwaith hwn gan randdeiliaid a phobl ifanc.

      Comisiynwyd Margaret Jervis, MBE DL, i adolygu Ymestyn Hawliau. Cyflwynwyd adroddiad terfynol ac mae’n cael ei baratoi i’w gyhoeddi. Llywiwyd y gwaith hwn gan randdeiliaid a phobl ifanc.

      Comisiynwyd y Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid (YWRG), sy’n cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid, gan ddarparu cyngor i Lywodraeth Cymru, i adolygu argymhellion Margaret a chynnig ffordd ymlaen.

Byddwn yn:

      Dechrau datblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid uchelgeisiol newydd ar unwaith.

      Sicrhau bod gweledigaeth hirdymor yn cael ei hymgorffori o fewn y strategaeth, gyda phrosesau cynllunio blynyddol manwl, hunanwerthuso, ac adolygu.

      Cyd-adeiladu’r strategaeth gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid ar bob lefel yn y system.

      Cyhoeddi Adolygiad Margaret, ‘Adolygiad o Effaith y Strategaeth Gwaith Ieuenctid’, ac adolygiadau cysylltiedig o gyllid grant

      Ymgorffori gwersi a ddysgwyd, gan gynnwys o Ymchwiliad y Pwyllgor, ochr yn ochr â thystiolaeth ehangach yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

      Seilio ein dulliau gweithredu yn gadarn o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

      Ailsefydlu Cynnig/Siarter Gwaith Ieuenctid wrth wraidd y strategaeth newydd.

      Cynnwys ystyriaeth o’r mater ‘digonolrwydd darpariaeth’, a rôl cyrff eraill fel darparwyr gwasanaeth, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru wrth sicrhau atebolrwydd cadarn.

      Datblygu ein hymagweddau yng nghyd-destun ac ethos Ymestyn Hawliau, gyda’r bwriad o ystyried statws canllawiau statudol cyfredol, ar ôl i’r dull gweithredu strategol ar gyfer sicrhau gwaith ieuenctid gael ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

      Sefydlu Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth, gwerthuso dulliau gweithredu ar gyfer dosbarthu adnoddau, cynrychioli llais y sector, a darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.

      Cyhoeddi amserlen sy’n nodi sut/pryd y caiff hyn ei gyflawni.

 

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 1:

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu’r ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth hir dymor i waith Ieuenctid yng Nghymru.  Edrychwn ymlaen at gyfrannu at y gwaith hwn. 

Bydd Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau bod ein haelodau yn ymgysylltu gyda’r broses cyd-adeiladu. 

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru hystyried yn llawn anghenion siaradwyr Cymraeg a darpariaeth cyfrwng Cymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth, a'r angen am gynnig cyson ac o ansawdd ar draws Cymru gyfan.

Wrth gynllunio at y dyfodol, deallwn yr angen i gyd-gynllunio’n lleol ond ar y llaw arall mae dyheadau ac anghenion pobl ifanc yn croesi ffiniau awdurdodau lleol. 

O fewn yr asesiadau digonolrwydd ni ddylid ymdrin ag anghenion grwpiau o bobl ifanc ar lefel leol yn unig.  Er enghraifft gall anghenion dewis ieithyddol manteisio ar ddarpariaeth sy’n croesi ffiniau cymunedol a/neu ffiniau awdurdodau lleol.

Croesawn y dyhead am gynllun uchelgeisiol, hoffwn hefyd annog camau cyraeddadwy i gyrraedd y nod, monitro ac atebolrwydd rheolaidd ynghyd â chynllun gweithredu sydd yn nodi’r cyfrifoldebau gweithredu.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyflwyno papur i swyddogion Llywodraeth Cymru (Chwefror2018) sy’n cynnig Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer darpariaeth Gwaith Ieuenctid cyfr

Argymhelliad 2 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog gynnal trafodaethau brys â'r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid Gweinidogol i fynd i'r afael â'r pryderon o fewn y sector ynghylch diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

.Rydym wedi:

      Cynnal trafodaethau brys ar lefel Weinidogol gyda’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid.

      Diweddaru cylch gwaith y grŵp ac wedi dechrau ymestyn eu haelodaeth.

      Cydnabod y rôl allweddol y mae’n ei chwarae wrth gefnogi’r sector a Llywodraeth Cymru wrth gyflawni a gweithredu’r polisi.

      Rhoi’r dasg iddo o ystyried yr adroddiad drafft a gynhyrchwyd gan Margaret Jervis, MBE DL.

      Defnyddio ei arbenigedd a’i wybodaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru.

      Derbyn adborth cadarnhaol gan y Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid ar y dull gweithredu newydd hwn.

Byddwn yn:

      Parhau i ddefnyddio’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid yn strategol, gydag ymgysylltiad rheolaidd gan Lywodraeth Cymru i lywio’r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu.

      Comisiynu’r Grŵp i ddechrau gwaith i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru.

      Sicrhau aliniad â’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim arfaethedig, wrth iddo ddatblygu a gweithredu.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 2:

Croesawn yr ymgysylltiad rheolaidd strategol rhwng y Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid a Llywodraeth Cymru. 

Rhaid sicrhau bod y Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid yn strategol ac yn ymestyn allan ac yn rhannu'r cyfle i eraill i gyfrannu at y drafodaeth.

Hoffwn i’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid cychwyn y drafodaeth ar atebolrwydd gweithredu a gwariant gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 3 y Pwyllgor:

Dylai fod llwybr clir ac ystyrlon i bobl ifanc fod yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru. Dylai hyn gael ei ddatblygu gan y Gweinidog, rhanddeiliaid a phobl ifanc.

Derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Sicrhau yr ymgysylltwyd ac yr ymgynghorwyd â phobl ifanc fel rhan o’r ‘Adolygiad o Effaith y Strategaeth Gwaith Ieuenctid’.

      Sicrhau yr ymgysylltwyd ac yr ymgynghorwyd â phobl ifanc fel rhan o adolygiad Margaret Jervis’ o Ymestyn Hawliau.

      Comisiynu Plant yng Nghymru i gynnal darn penodol o waith gyda phobl ifanc i lywio gwaith Margaret.

      Cynnal trafodaethau gyda’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid i archwilio sut y gall pobl ifanc lywio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid uchelgeisiol newydd ar gyfer Cymru.

Byddwn yn:

      Cynnwys pobl ifanc yn y broses o gyd-greu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru.

      Ystyried y rôl y byddant yn ei chwarae wrth gynllunio, cyflawni a monitro gwaith ieuenctid o fewn y Strategaeth newydd a chyfleu hynny.

      Datblygu cynllun ymgysylltu, mewn partneriaeth â phobl ifanc a rhanddeiliaid, i sicrhau bod yr argymhelliad hwn yn parhau i gael ei fodloni’n llawn yn y dyfodol.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 3:

Pobl ifanc yw’r prif rhanddeiliad sydd yn derbyn darpariaeth Gwaith Ieuenctid.  Mae rhaid iddynt gael rôl flaenllaw yn natblygiad y Cynllun.  Gofynnwn i Lywodraeth Cymru i ystyried nifer o ddulliau a ffyrdd amrywiol i hyn ddigwydd.  Dylid ystyried gallu cyrff fel yr Urdd i sicrhau bod llais pobl ifanc yn cyfrannu ym mhob cam o’r broses.

Llaw yn llaw wrth sicrhau llais pobl ifanc, mae angen sicrhau gwir ymgysylltiad gyda’r cyrff a’r mudiadau sydd yn darparu gwasanaethu gwaith ieuenctid i bobl ifanc. 

Gyda’n cymorth ni, bydd pobl ifanc yn medru deall yn well gyda hyder y ‘llwybr clir ac ystyrlon’ i gyfrannu at ddatblygu strategaeth Gwaith Ieuenctid

Bydd datblygu cynllun ymgysylltu o fudd i bawb ac yn sicrhau proses cynhwysol i bawb cyfrannu.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 4 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog gyflwyno model cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, sy'n cwmpasu darpariaeth statudol a gwirfoddol. Dylai'r Gweinidog adrodd i'r Pwyllgor hwn ar gynnydd o fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn.

Derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Comisiynu Margaret Jervis i gynnal adolygiad o Ymestyn Hawliau, a oedd yn cynnwys rhoi ystyriaeth i ‘fodel cenedlaethol’ sy’n cwmpasu darpariaeth statudol a gwirfoddol.

      Comisiynu Adolygiad o Effaith y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid sy’n gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.

      Ystyried y canfyddiadau hyn sy’n cynnig ‘modelau’ posibl ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.

Byddwn yn:

      Dechrau ar y gwaith o ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid uchelgeisiol newydd ar unwaith, gan gynnwys ystyried model cyflawni priodol.

      Penodi Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, y bydd ei gylch gwaith yn cynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth newydd, a darparu cyngor ar ddulliau cyflawni priodol.

      Ymestyn cylch gwaith ac aelodaeth y Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid, gan ymestyn gwahoddiad i gynrychiolwyr strategol o awdurdodau lleol, gan sicrhau bod y strategaeth newydd yn cydbwyso uchelgeisiau a’r gallu i gyflawni yn y cyd-destun cyfredol.

      Sicrhau ein bod yn gwrando ar farn darparwyr statudol a gwirfoddol fel rhan o’r gwaith datblygu.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 4:

Mae gan nifer o randdeiliad rôl bwysig i ddarparu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.  Croesawn fod Llywodraeth Cymru am ystyried ‘model cyflawni priodol’.  Gofynnwn, a oes lle i fwy nag un ‘model cyflawni priodol’?

Onid y nod yw cael gweledigaeth hir dymor cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru gyda nodau cyraeddadwy ac atebolrwydd clir i’r Bwrdd Gwaith Interim. 

Mae tystiolaeth yn profi bod darpariaeth Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn anghyson o ran y cynnig i bobl ifanc a’r gwariant ar draws Cymru. 

Mae gan Waith Ieuenctid Cyfrwng Cymraeg rôl bwysig yn y strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr, i roi cyfleoedd i bobl ifanc i ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg tu allan i’r dosbarth ac i bontio at gyflogaeth. 

O ganlyniad , mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru (Chwefror 2018) Model Cenedlaethol i ddarparu cynnig Gwaith Ieuenctid cyson ac o ansawdd cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 5 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog adrodd yn ôl i'r Pwyllgor o fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn ar sut y mae'n bwriadu asesu i ba raddau y mae ei ymrwymiad i ddarpariaeth ddwyieithog mynediad agored, cyffredinol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cael ei gyflawni.

Derbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Adrodd yn ôl i’r Pwyllgor a chydnabod bod tirwedd gwaith ieuenctid yn newid yng nghyd-destun hinsawdd ariannol heriol.

      Derbyn y rôl y gallai ‘Asesiadau Digonolrwydd’ ei chwarae wrth asesu i ba raddau y mae darpariaeth fyd-eang, mynediad agored, yn Gymraeg a Saesneg, yn cael ei chyflawni.

      Dechrau archwilio’r rôl y bydd ‘Asesiadau Digonolrwydd’ yn ei chwarae yn y dyfodol.

Byddwn yn:

      Ymgorffori’r syniad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’ a’r asesiad ohono o fewn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru.

      Ailddatgan ein hymrwymiad i’r rôl y gall gwaith ieuenctid ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

      Ymgysylltu â phobl ifanc wrth ddatblygu’r strategaeth newydd i ddatblygu dealltwriaeth gyfredol o’u hanghenion mewn perthynas â’r math o wasanaethau ieuenctid yr hoffent gael mynediad iddynt, yn yr iaith a ffefrir ganddynt.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 5:

Rydym yn rhoi croeso ‘gofalus’ i ‘asesiadau digonolrwydd darpariaeth’ ac am drafod ymhellach ystyr digonolrwydd yng nghyd-destun darpariaeth Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg, y cynnydd yn siaradwyr Cymraeg a datblygu siaradwyr newydd hyderus, darpariaeth mewn ardaloedd llai poblog ac sydd ar draws ffiniau awdurdodau lleol.

Fel nodwyd yn flaenorol, mae’r Urdd wedi cynnig model cenedlaethol ar sut i gyflawni darpariaeth mynediad agored Cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. 

Gwelwn o fewn yr ymateb yma gan Lywodraeth Cymru taw ychydig o sylw sydd i gyfraniad y canlynol at waith ieuenctid yng Nghymru :- datblygu’r gweithlu gwirfoddol a chyflogedig; cymwysterau a dull darparu sy’n addas i’w pwrpas i’r sector; diffygion yn neddfwriaeth cofrestru gweithwyr ieuenctid cynorthwyol a gweithwyr ieuenctid ynghyd a’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol.  Wrth i’r tirlun Gwaith Ieuenctid newid, credwn fydd yn amserol i adolygu dangosyddion y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid Yng Nghymru.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 6 y Pwyllgor:

O fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn, dylai'r Gweinidog gomisiynu ymarfer i fapio darpariaeth gwaith ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru. Dylid adnewyddu'r ymarfer o bryd i'w gilydd.

Derbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Ystyried yr ymarfer i fapio darpariaeth gwaith ieuenctid gwirfoddol a gynhaliwyd gan CWVYS (2015) mewn perthynas â’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a Corris Bright (2016).

      Adrodd yn ôl i’r Pwyllgor gan nodi efallai nad yw ymarfer mapio cenedlaethol yn briodol o ystyried y cyd-destun sy’n newid yn gyflym wrth i wasanaethau newid ac addasu.

      Nodi ein hymrwymiad i’r cysyniad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’ a’r asesiad ohono wrth gynllunio, cyflawni a monitro gwasanaethau ieuenctid.

Byddwn yn:

      Ymgorffori’r syniad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’ a’r asesiad ohono o fewn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru. Er mwyn sicrhau hyblygrwydd o fewn tirwedd sy’n datblygu, dylai unrhyw asesiad roi ystyriaeth i ddarpariaeth statudol a gwirfoddol ar lefel leol yn hytrach na chenedlaethol.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 6:

Deallwn safbwynt Llywodraeth Cymru o ran mapio darpariaeth.  Credwn fod diffyg tebyg o ran  yr wybodaeth o ‘beth sydd ar gael gan y gwasanaethau ieuenctid statudol’.

Fel mudiad cenedlaethol gyda darpariaeth leol, credwn bydd perygl wrth ganolbwyntio ar ‘lefel leol’ y bydd ‘bylchau’ ‘ffug’ o ddiffyg darpariaeth yn cael eu creu.

Er enghraifft mae gan yr Urdd rhwydwaith o tua 900 o gyfleoedd cyfrwng Cymraeg gwaith ieuenctid i bobl ifanc ar draws Cymru.  Seilir y cyfleoedd yma yn ddwfn yn isadeiledd cymunedau ar draws Cymru.  Byddwn am i’r ddarpariaeth hon cael ei chynnwys mewn unrhyw asesiad yn y dyfodol.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 7 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog sicrhau bod asesiadau o ddigonolrwydd gwaith ieuenctid yn cael eu cynnal gan awdurdodau lleol fel rhan o'r asesiadau o anghenion y boblogaeth ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd o fewn chwe mis i gyhoeddi'r adroddiad hwn.

Derbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Derbyn rôl bosibl ‘Asesiadau o Ddigonolrwydd’ yn y gwaith o gynllunio, cyflawni a monitro darpariaeth gwasanaethau ieuenctid.

      Sefydlu gweithgor ym mis Tachwedd 2017 i gadarnhau sut y gallai’r rhain weithio yng Nghymru, gan ddysgu o ddulliau a roddwyd ar waith yn y sector Chwarae.

      Pennu bod gofyniad ar gyfer asesu er mwyn sicrhau bod angen y gwasanaethau a ddarperir o fewn ardal awdurdod lleol, bod y gwasanaethau hynny o’r maint cywir ac yn cael eu darparu gan y sefydliad mwyaf perthnasol.

      Ymchwilio i sut beth fyddai asesiad a dod i’r canlyniad, yn absenoldeb gweledigaeth a Strategaeth Gwaith Ieuenctid hirdymor newydd, sy’n mynd â ni y tu hwnt i 2018, nad yw’n bosibl cadarnhau dull i’w roi ar waith ar unwaith.

Byddwn yn:

      Ymgorffori’r syniad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’ a’r asesiad ohono o fewn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru.

      Cyd-greu’r Strategaeth mewn partneriaeth â phobl ifanc a rhanddeiliaid.

      Sicrhau cytundeb ar draws y sector o ran y defnydd o Asesiadau o Ddigonolrwydd wrth gynllunio, cyflawni a monitro darpariaeth gwasanaethau ieuenctid fel rhan o’r strategaeth newydd.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 7:

Fel nodwyd yn ein hymatebion blaenorol, rydym yn rhoi croeso ‘gofalus’ i’r syniad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’. 

Ni fyddwn am i unrhyw asesiad dyfu i fod yn broses gweinyddol enfawr fydd yn tynnu adnoddau oddi ar ddarpariaeth i bobl ifanc.

Oes rôl gan gorff cenedlaethol darparu asesiad o ‘ddigonolrwydd darpariaeth’ i Gymru gyfan?  Mae gennym bryder am gapasiti cyrff cenedlaethol i ymgysylltu a chyflwyno gwybodaeth i 22 asesiad ‘digonolrwydd darpariaeth’.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 8 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid drwy'r grant cynnal refeniw. Dylai'r fframwaith gynnwys sancsiynau os na chyflawnir y canlyniadau

Derbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Cadarnhau bod y Grant Cynnal Refeniw yn ffrwd gyllido heb ei neilltuo y gellid ei gwario yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol ac yn unol â’u hanghenion a blaenoriaethau lleol.

      Cadarnhau nad yw’n bosibl ar hyn o bryd nodi faint gaiff ei wario ar waith ieuenctid, o ganlyniad i gronni cyllidebau ar draws gwasanaethau ar lefel leol, na rhagfynegi’r swm chwaith.

      Adolygu ein ffrydiau cyllid grant cyfredol i ystyried sut y gallant gefnogi’r canlyniadau a ddymunir yn well mewn perthynas â gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymorth ieuenctid.

      Dechrau rhoi newidiadau ar waith i ddulliau cyllid grant, gan sicrhau mwy o ffocws ar effaith, yn hytrach na chanlyniad.

      Ymchwilio i fframwaith canlyniadau ar gyfer gwaith ieuenctid yng nghyd-destun y strategaeth bresennol.

Byddwn yn:

      Cyhoeddi adolygiadau o’r Grantiau Gwaith Ieuenctid.

      Parhau i ddysgu oddi wrthynt drwy eu hadolygu’n rheolaidd.

      Sefydlu Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i gefnogi’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, a chynghori ar ddulliau o ddefnyddio adnoddau yn briodol, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

      Sicrhau cytundeb ar draws y sector i ddefnyddio ‘Asesiadau Ddigonolrwydd’ yn y gwaith o gynllunio, cyflawni a monitro darpariaeth gwaith ieuenctid fel rhan o’r strategaeth newydd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried eu rôl o fewn fframwaith atebolrwydd newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid ar draws awdurdod lleol a darpariaeth wirfoddol.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 8:

Nodwyd yn flaenorol ein sylwadau am yr asesiadau digonolrwydd darpariaeth.  Rhoddwn groeso ‘gofalus’ iddo. 

Teimlwn fod Llywodraeth Cymru yn gorddibynnu ar ‘asesiadau ddigonolrwydd’ i roi'r ‘atebion’ i’r holl heriau sydd yn wynebu darpariaeth gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Croesawn fframwaith atebolrwydd, sydd yn cynnwys cyllid awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth gwasanaethau a gwaith ieuenctid. 

Yn ei dro, disgwylir yr un lefel o atebolrwydd i sicrhau gwariant teilwng i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd yn medru’r Gymraeg ac sydd am dderbyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  

Mae darpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cynnwys ystod eang o ddarparwyr, byddwn am i fframwaith atebolrwydd rhoi sylw teilwng gan enwi a chydnabod yr ystod eang o ddarparwyr gwaith ieuenctid ar draws Cymru.

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 9 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog archwilio parhad cyllid posibl Erasmus+, os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu peidio â gwneud hynny,

Derbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Cadarnhau ein hymrwymiad tuag at ddull yn seiliedig ar dystiolaeth tuag at adael yr UE.

Byddwn yn:

      Parhau i hyrwyddo dull gweithredu sy’n rhoi lle canolog i flaenoriaethau Cymru, gan ymateb i flaenoriaethau’r DU gyfan ar yr un pryd.

      Parhau i drafod â’n cymheiriaid o fewn Llywodraeth y DU, gan ymdrin â rôl cyllid Erasmus+ yng nghyd-destun y DU

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 9:

Croesawn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau a’r deialog gyda Llywodraeth DU i barhau a chyllid Erasmus+

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na

Argymhelliad 10 y Pwyllgor:

Dylai'r Gweinidog sicrhau bod y sector gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ddiwygio'r cwricwlwm.

Derbyniwyd gan Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym wedi:

      Cadarnhau cynrychiolaeth o’r sector statudol a gwirfoddol ar y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar gyfer Diwygio Addysg.

      Ymgysylltu â’r Grŵp Cyfeirio Gwaith Ieuenctid (gyda chynrychiolwyr o’r sectorau statudol a gwirfoddol) gyda’r broses o Ddiwygio’r Cwricwlwm.

Byddwn yn:

      Parhau i sicrhau dulliau priodol o sicrhau bod y sector gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol yn chwarae rôl ganolog yn y broses o ddiwygio’r cwricwlwm.

      Ystyried a mynegi’r cysylltiadau a’r aliniad rhwng addysg ffurfiol a gwaith ieuenctid yn y Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd ar gyfer Cymru.

Ymateb y Rhanddeiliaid i Argymhelliad 10:

Eto croesawn y camau a nodwyd uchod.  Er hyn mae llawer dal i wneud. 

Pryderwn nad yw’r sector gwirfoddol a’r un lefel o ymwybyddiaeth a’n cydweithwyr o fewn yr awdurdodau lleol. 

Mae Urdd Gobaith Cymru yn aelodau o’r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar gyfer Diwygio Addysg ac yn cyfrannu at y broses o ddiwygio’r cwricwlwm

Unrhyw faterion perthnasol eraill sydd wedi codi ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor:

Na